Ibby Abdi
Ibby Abdi yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol brand dillad stryd mwyaf Cymru, menter a ddechreuodd yn ei ystafell wely ac a ddatblygodd yn ffenomen fyd-eang.
Yn enwog am ei ddyluniadau arloesol a’i gydweithrediadau â brandiau mawr fel New Balance, mae Ibby wedi cael effaith sylweddol ar draws y diwydiant creadigol. Yn adnabyddus yn fyd-eang nid yn unig am ei frand ond hefyd fel unigolyn deinamig, mae wedi cynnal digwyddiadau a werthwyd allan ledled y byd, o Wlad Thai i Gaerdydd.
Ac yntau’n falch o chwifio baner Cymru’n uchel, mae taith Ibby o ddechreuadau di-nod i lwyddiant rhyngwladol yn arddangos ei athrylith greadigol a’i ysbryd entrepreneuraidd, gan gadarnhau ei statws fel arweinydd mewn dillad stryd a’r diwydiant creadigol ehangach.