Izzy Rabey
Cyfarwyddwr theatr/ffilm, hwylusydd a chrëwr cerddoriaeth cwiar yw Izzy Rabey ac mae’n dod o’r canolbarth.
Hi oedd y Cyfarwyddwr dan Hyfforddiant cyntaf o Gymru yn The Royal Court Theatre (2020-2021) a bu’n Artist Cyswllt yn y Pentabus Theatre Company (2021-2022).
Yn 2023, fe wnaethon nhw ennill Gwobr Selar am gyfraniad at gelfyddydau Cymru ac ymgyrchu diwylliannol. Mae Izzy wedi cyfarwyddo gwaith i The Royal Court, English Touring Theatre Company, Paines Plough, Theatr Clwyd, The Pleasance, National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, Underbelly Edinburgh a Theatr y Sherman.
Mae hi’n rapio yn Gymraeg, yn canu ac yn ysgrifennu geiriau caneuon. Mae Izzy hefyd yn golofnydd i Golwg, y cylchgrawn wythnosol Cymraeg, ac mae hi’n parhau i hwyluso prosiectau ym maes croestoriadedd a hunaniaeth Gymreig yng Nghymru ac yn Llundain.