Rhagenwau: ef
Jared Planas (Stuttershock)
Cefndir mewn cerddoriaeth roc/metel sydd gan Jared Planas, ond symudodd i fyd cynhyrchu cerddoriaeth, gan droi ei law at genres fel Hip Hop, Lofi a Pop. Mae bellach yn beiriannydd ac yn gynhyrchydd dwyieithog. Ar ôl bod yn rhan greiddiol o’r band Nineteen Fifty-eight rhwng 2013 a 2017, teithiodd Jared yn helaeth drwy’r Deyrnas Unedig fel gitarydd.
Fel artist unigol a chynhyrchydd o dan yr enw Stuttershock, mae wedi cydweithio ag amrywiaeth eang o artistiaid stiwdio. Yn ogystal â’i waith stiwdio, mae ei arbenigedd technegol wedi’i alluogi i weithio fel peiriannydd byw, gan ofalu am systemau blaen tŷ a monitorau mewn gwyliau niferus ledled y de.
Gig Feral Fest
Ffwrnes, Llanelli | 13 Mawrth o 18:15 - 18:45