Jo Lilford
Jo Lilford ydy sylfaenydd Run Jump Fly.
Cyn sefydlu asiantaethau – Run Jump Fly yn gyntaf, ac yna Clout Branding – treuliodd dros 20 mlynedd yn gweithio’n rhyngwladol mewn uwch swyddi marchnata a chyfathrebu mewn sefydliadau mawr gan gynnwys Getty Images, Atradius, Principality a Pharciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n golygu ei bod wedi gweld pethau o’r ddwy ochr – wedi gweithio o fewn busnesau, ond wedi bod yn gleient i rai o asiantaethau blaenaf y byd, mae ganddi fydolwg ddeuol ddefnyddiol iawn.
Heddiw, mae’n canolbwyntio’n llwyr ar Run Jump Fly: er mai hi sydd yno’n bennaf, mae hi’n cydweithio â phob math i bobl, ym mhedwar ban byd. Dyma’r bobl mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda nhw, ac mae hi’n eu dethol yn ofalus ar gyfer pob prosiect ar sail eu profiad yn mynd i’r afael â heriau penodol. Golyga hyn ei bod yn gallu cadw costau gorbenion yn isel – ac ansawdd y gwaith yn uchel.
Beth sy’n ei chadw’n effro liw nos? Mae ganddi chwilen yn ei phen ynglŷn â’r angen i fod yn syml a defnyddio’r dychymyg mewn busnes ac mae hi’n helpu pobl i lwyddo ar sawl lefel wahanol, o strategaethau brandiau ar y lefel uchaf i weithio ar wyneb y graig yn ysgrifennu. Yr un yw ei nod yn ei holl waith: helpu i wneud sefydliadau yn hawdd eu deall, ond yn amhosib i’w hanwybyddu.
Yn olaf, mae cael amser da a gwneud gwaith da yn mynd law yn llaw yn ddigamsyniol. Mae’n bwysig iddi hi bod ei chleientiaid yn mwynhau gweithio gyda hi ac yn aros o gwmpas. Maen nhw.