Julia Thomas
Mae Julia Thomas yn gyfarwyddwr a dramaydd o Lanelli, yn arbenigo mewn ysgrifennu newydd, theatr deuluol a datblygu artistiaid. Sefydlodd Canoe Theatre, gan ddatblygu model teithiol ar gyfer theatr ddwyieithog ystyriol o ddementia ac mae wedi creu gwaith ar draws y DU.
Roedd Julia yn Gyfarwyddwr Preswyl yn National Theatre Studio, Cyfarwyddwr Preswyl RTYDS yn Curve Leicester, Cyfarwyddwr Cyswllt yn National Theatre Wales a Chynhyrchydd Datblygu Artistiaid a Gwaith Newydd yn Curve.
Mae Julia yn aelod o Labordy’r Cyfarwyddwyr yn y Lincoln Center Theatre Efrog Newydd ac fe’i cefnogwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i gymryd rhan yn y Labordy Gwneud Theatr mewn Amser o Newid gan gydweithio â phobl greadigol o dros 60 o wledydd.
Yn ddiweddar mae hi wedi arwain partneriaeth prosiect a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri rhwng The Wallich ac Invisible Cities, gan ddefnyddio ei sgiliau i feithrin straeon dilys i alluogi pobl y mae digartrefedd wedi effeithio arnynt i ddod yn dywyswyr dinas yng Nghaerdydd. Mae Julia wedi ymrwymo i gyfoethogi a gwella’r posibiliadau ar gyfer cymryd rhan yn y celfyddydau gan ymchwilio i hyn drwy iaith, ystyr a theimlad. Mae ei gwaith yn archwilio cymuned, hapusrwydd a gwerth adfywio a arweinir gan ddiwylliant, sydd wedi’i gysylltu’n gynhenid â pherthnasoedd â natur a meddwl am y dyfodol.