Kyle Legall
Mae celfyddyd Kyle wedi ehangu i sawl genre o ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer animeiddiadau, gwneud ffilmiau, theatr a murluniau graffiti, yn ogystal â dylunio a gwneud ei gyfres o ddillad graffiti ei hun. Mae Kyle wedi ysgrifennu, cyfarwyddo, dylunio ac animeiddio pedair ffilm fer 2D ar gyfer Channel 4 ac S4C.
Mae hefyd yn gwneud fideos cerddoriaeth a chelf clawr ar gyfer bandiau lleol. Yn 2015, daeth Kyle yn artist preswyl cyntaf National Theatre Wales.
Fel cyfarwyddwr yn dod i’r amlwg yn 2018/19, bu’n gweithio ar gynyrchiadau Storm 1, 2 & 3, gan gydweithio â’r cyfarwyddwyr theatr Mike Brooks a Mike Pearson.
Yn 2017, ysgrifennodd, cynlluniodd a chyfarwyddodd Kyle ei ddrama ei hun RATS (Rose Against the System), a lwyfannwyd yn y gwagle yn y to yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae hefyd wedi cyfrannu’n frwd at weithiau celf aml-lwyfan ar gyfer arddangosfa sy’n archwilio etifeddiaet terfysgoedd hil Caerdydd 1919.