Naomi Chiffi
Cyfarwyddwr CydweithioHelo, Naomi ydw i
Rwy'n arwain ar brosiectau ledled Cymru ar ran TEAM. Fy swydd yw cynnig mynediad i ystod eang o brofiadau artistig a chreadigol i bobl yn eu hardaloedd a darparu drws agored i'r bobl hynny a allai feddwl nad yw theatr ar eu cyfer nhw. Mae'r pŵer i lunio theatr cenedl yn perthyn i'r bobl a fy ngwaith i yw gwrando ar gymunedau a chydweithio â nhw fel bod eu hanghenion, eu gobeithion a'u syniadau yn cael eu gwau drwy bob agwedd o'n gwaith. I mi, mae creadigrwydd yn golygu cysylltiad.
Os ydych chi wedi bod eisiau rhoi cynnig ar berfformio, ysgrifennu, cyfarwyddo, barddoniaeth, comedi, cerddoriaeth neu ddawns erioed ond ddim yn gwybod ble i ddechrau; os ydych chi'n angerddol am eich cymuned ac eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â phobl ynghyd neu os ydych chi eisiau trefnu parti boncyrs gwych yna fi yw'r un i siarad â hi!
Mae tirwedd theatr Cymru yn unigryw – mae’r celfyddydau yma yn deillio o gymunedau a lleisiau dosbarth gweithiol – mae’n hanfodol, os ydym am gysylltu â’r genedl a bod yn llais drosti, ein bod yn cofleidio’r rhan hanfodol hon o’n treftadaeth a’i gwneud yn ganolog i'n holl waith; nid gweithgaredd ychwanegol, ond y craidd. Dyma pam yr wyf yn gwneud yr hyn yr wyf yn ei wneud.
Cysylltwch â ni
Mae Naomi yn siarad Cymraeg ac yn hapus i sgwrsio yn Gymraeg neu Saesneg.