Rhiannon Mair
Mae Rhiannon Mair yn gweithio’n helaeth yn y byd theatr yng Nghymru fel perfformiwr, dramatwrg, hwylusydd ac addysgwr. Arbeniga mewn dyfeisio gwaith theatr ac mae ei gwaith diweddar yn cynnwys ei sioe un person gyda Volcano Theatre, Ar Lan y Môr, a phrosiect ymchwil a datblygu mawr sy’n edrych ar y berthynas rhwng newid hinsawdd a diflaniad ieithoedd lleiafredig gyda’r artist Steffan Phillips, Pan Elo’r Adar.
Mae hi’n gweithio’n gyson gyda BACA (Butetown Arts and Culture Association) fel perfformiwr a dramatwrg, a bu’n gweithio’n ddiweddar fel ymarferydd creadigol gyda’r elusen The Wallich mewn hostel digartref. Mae ganddi ddoethuriaeth ymarferol yn yr iaith Gymraeg sydd yn edrych ar ‘Y capel Cymraeg, cymdogaeth a pherfformiad’.
Mae Rhiannon yn Fam, yn wirfoddolwr cymunedol, ac yn hoffi creu gwaith sydd yn edrych ar iaith (y Gymraeg yn bennaf), cymuned, menywod a natur.