ef/nhw
Richard Dannenberg
Cerddor Almaenig-Prydeinig sy’n defnyddio genres a chyfryngau niferus yw Richard Dannenberg, neu Karypsia. Maen nhw’n creu’r hyn y maen nhw’n ei alw yn “Roc Celfyddydol Cysyniadol” – wedi’i gyfuno ag indie, synth, ffync, celfyddyd sain, geiriau a sinema estynedig.
A hwythau’n actio hefyd, mae’u perfformiadau yn llawn egni’r theatr, a’r rheini’n dod law yn llaw â thafluniadau. Mae ganddyn nhw wastad ddiddordeb mewn cyfuno seiniau newydd â syniadau hynod am straeon, gan ddelio â themâu fel dystopia, iechyd meddwl, bywgraffiadau, ymgyrchu amgylcheddol a beth bynnag arall sy’n mynd â’u bryd.
Gig Feral Fest
Theatr y Sherman, Caerdydd | 24 Chwefror o 18:20 - 18:35
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth | 29 Chwefror o 20:30 - 20:45