Robert Edge
Mae Robert Edge yn rheolwr celfyddydau profiadol ar ôl gweithio i’r Cyngor Prydeinig, Cyngor Celfyddydau Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â rhedeg ei ymgynghoriaeth ei hun.
Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Seren Books am bymtheng mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr Cynnal Cymru, prif elusen datblygu cynaliadwy Cymru ac Ymddiriedolaeth Mervyn Burtch.
Fe’i magwyd yng Nghwm Rhymni cyn symud i Lundain cyn cael swyddi dramor yn Uganda a Kenya. Dychwelodd i Gymru gyda’i wraig Sioned i fagu eu plant Gruffydd a Hedydd.