Shakeera Ahmun
Mae Shakeera yn artist dawns a thiwtor llawrydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, Cymru.
Mae'n cael ei hysbrydoli gan gerddoriaeth a naws alaw a rhythm, sy'n gyrru ei chorffoldeb ac yn llunio ei hiaith symud yn barhaus. Mae hi wrth ei bodd yn archwilio gwaith byrfyfyr trwy'r rhinweddau hyn, sydd wedi llywio ei hymarfer artistig yn ddwfn.
Mae Shakeera yn cael ei denu at waith sy'n archwilio cymuned trwy gerddoriaeth, symud a thestun. Yn 2019, derbyniodd grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i archwilio, Cymuned a Chwlwm. Ysbrydolwyd y prosiect gan ei magwraeth yn Nociau Butetown, ac archwiliodd pa mor gyfarwydd oedd cartref, trwy ddawns, cerddoriaeth, a thestun. Roedd y gair llafar a cherddoriaeth yn ategu Cymuned a Chlwm gyda gosodwaith o ddillad traddodiadol a wisgwyd gan ei rhieni a'i nain a'i thaid o Yemen.