Sharon Gilburd
Gyd-GadeiryddDwi’n strategydd digidol sydd wedi gweithio ers bron i ddau ddegawd gyda busnesau sefydledig a busnesau newydd i drawsnewid eu ffyrdd o weithio, trwy gymhwyso dylunio a thechnoleg ddigidol. Mae fy chleientiaid wedi cynnwys Visa, Orange a Barclaycard.
Yn wreiddiol o Glasgow, cefais magu yn Shetland cyn mynychu’r brifysgol yng Nghaeredin lle cefais fy recriwtio i weithio i Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa a datblygais i gariad am ystadegau a ieithoedd.
Yn fwy diweddar, astudiais i MA mewn Dychymyg Cymhwysol yn y Diwydiannau Creadigol yn Central St Martin’s a phenodwyd fi Gadeirydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru (corff hyd braich i Lywodraeth Cymru). Cymraeg yw fy mhrosiect dysgu iaith diweddaraf; mae byw mewn cymununed cefnogol iaith Gymraeg rhan fwyaf yn helpu’n fawr gyda hyn.
Dwi wir yn edrych ymlaen at weithio fel cyd-Gadeirydd gyda Yvonne. Mae’n gret bod ganddon ni’r cyfle i ddod â phrofiadau’r ddwy o ni i’r rôl. Mae’r talent a’r ymrwymiad ar y Bwrdd presennol ac ar draws tîm NTW yn anhygoel. Dwi wedi treulio 6 mis diwethaf yn Ymddirieodolwr a dwi rwan yn edrych ymlaen at fy rôl yn cyflawni’r amcanion ar gyfer NTW a Chymru dros y blynyddoedd nesaf.