Shirish Kulkarni
Rwy'n newyddiadurwr, yn ymchwilydd ac yn drefnydd cymunedol ac mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ddefnyddio adrodd straeon i adeiladu pŵer cymunedol ac ysgogi newid systemau.
Mae'n bwysig i mi, ac yn hollbwysig i gymdeithasau iach, bod straeon pawb yn cael eu hadrodd – nid dim ond rhai pobl freintiedig. Dyna pam y sefydlais Inclusive Journalism Cymru – rhwydwaith i gysylltu, cefnogi ac ymgyrchu dros bobl sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion neu eu hallgau gan y diwydiant newyddiaduraeth yng Nghymru.
Rwy’n meddwl y gall celf yn gyffredinol, a theatr yn arbennig, hefyd chwarae rhan ganolog yn y math o drawsnewid y mae llawer ohonom am ei weld.
Ar ôl gweithio ar brosiectau NTW diweddar, rwy'n gyffrous i rannu a dysgu gyda'r TEAM Panel.