Simon Stephens
Mae gan Simon 14 mlynedd o brofiad o weithio yn y trydydd sector; ar hyn o bryd, mae’n Bennaeth Rhwydwaith (Cymru) yn Mind Cymru, a chyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Rhaglenni yn Sefydliadau Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, sef elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Mae ganddo angerdd dros y trydydd sector a’r gwahaniaeth y mae’n gallu ei wneud i fywydau’r rhai y bydd yn ymwneud â nhw, ac mae’n credu bod gan y sector allu unigryw i gyrraedd grwpiau ac unigolion nad ydy gwasanaethau eraill yn gallu eu cyrraedd Mae ganddo ddiddordeb mewn llywodraethu da, wedi iddo gael blynyddoedd o brofiad yn gweithio tuag at ac yn cyflawni safonau ansawdd, gyda diddordeb arbennig mewn diogelu a chasglu ac adrodd data.
Graddiodd o Brifysgol De Cymru, wedi iddo gwblhau gradd mewn Astudiaethau Chwaraeon yno ynghyd â Lefel 5 ILM, ac mae ganddo Dystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol a enillodd tra roedd yng Ngholeg y Cymoedd.