Stephen Grant
Pennaeth CyllidHelo, Steve ydw i
Yn syml, fy swydd yw 'yr union beth mae'n ei ddweud ar y tun' - rwy'n bennaeth ar Dîm Cyllid NTW. Rydym yn dîm bach, â ffurf berffaith, o dri o bobl. Rwy’n cymryd rôl arweiniol o ran cynllunio ariannol tymor hwy, cyllidebu, cynhyrchu ein cyfrifon cyhoeddedig, adrodd i Ymddiriedolwyr a chyllidwyr a’r holl faterion sy’n ymwneud â TAW a hawliadau rhyddhad treth theatr.
Mae'n debyg i mi ddechrau mewn cyfrifeg a chyllid oherwydd roeddwn i'n mwynhau gweithio gyda rhifau. Mae llawer yn meddwl bod cyfrifyddiaeth yn bwnc sych iawn, ond o’i wneud yn iawn gall fod yn allweddol i lwyddiant unrhyw sefydliad – gan ei helpu i gynhyrchu cymaint o gyllid ag y gall a gwneud yn siŵr ei fod yn defnyddio’r arian hwnnw yn y ffordd orau, a phan fyddwch yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu elusennol, gall gael budd cyhoeddus uniongyrchol. Dyna sydd wir yn fy ngyrru.
Efallai y byddwch am gysylltu â mi os ydych am siarad am sut a pham y byddwn yn mynd ati i wneud pethau ariannol yn NTW, yn enwedig os gall hynny fod o gymorth gyda’r heriau y gallech fod yn eu hwynebu. Rwyf bob amser yn awyddus i adeiladu rhwydweithiau gydag eraill sy'n gweithio ym maes cyllid a/neu'r celfyddydau.
Rwy’n credu mewn gwneud cymdeithas yn lle tecach a gwneud pethau’n well ar gyfer y cenedlaethau sy’n dilyn. Bathodd y Chwyldro Ffrengig yr ymadrodd 'Liberté. Égalité, Fraternité’ – mae egwyddorion rhyddid, cydraddoldeb a chyfeillgarwch (yn eu hamryfal ffurfiau) yn parhau i fod yr un mor bwysig yn awr ag yr oeddent bryd hynny.
Cysylltwch â ni
Nid yw Steve yn siarad Cymraeg, ond roedd am i'w ddisgrifiad fod ar gael i'w ddarllen yn Gymraeg.