Steve Dimmick
Haia, sut ydych chi heddiw?
Mae bod yn ymddiriedolwr NTW yn gofyn i chi allu ystyried sefyllfaoedd o amrywiaeth o onglau, gan gynnwys eich rhai chi, a gwneud penderfyniadau anodd ar faterion pwysig. Fel cyfarwyddwr cwmni cenedlaethol, mae cyfrifoldeb arnoch chi i ddewis y peth 'cywir' o blith myrdd o opsiynau. Mae'n waith heriol!
Rwy'n dad i dri o blant, felly mae llawer o'm nosweithiau a'm penwythnosau yn cynnwys seiclo'r plant i'w hamrywiol ymdrechion chwaraeon, ac yna eu hyfforddi yno.
Fy swydd bob dydd yw Cyfarwyddwr Masnachol Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae Awen yn rhedeg theatrau, lleoliadau cerdd, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a gwesty mewn parc gwledig. Bob dydd rwy'n cyrraedd y gwaith i wneud bywydau pobl yn well. O'r rhai sy'n gwylio sioe neu ffilm yn ein lleoliadau, i'r rhai sy'n cerdded i lawr yr eil yn Nhŷ Bryngarw, i'r oedolion ag anableddau dysgu yr ydym yn eu cyflogi yn ein canolfannau garddio a gwaith coed, B-Leaf a Wood-B.
Rwyf hefyd yn Ymddiriedolwr Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru ac yn Rhiant Lywodraethwr yn Ysgol Plasmawr. Fi hefyd yw sylfaenydd clwb llyfrau mwyaf hirhoedlog Caerdydd, CardiffRead, sy’n cyfarfod yn fisol yn Llyfrgell Treganna.
Rwy'n gwneud yr hyn rwy'n ei wneud yn Awen i, gobeithio, fod yn esiampl i fy mhlant. Rwyf am iddynt wybod y gallwch weithio mewn rôl lle mae eich ffocws ar wella bywydau pobl eraill. Rwy’n gwirfoddoli gyda NTW a Llenyddiaeth Cymru i wella hyrwyddiad y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant ac i wella dealltwriaeth Cymru o’r celfyddydau dramatig a llenyddiaeth. Rwy’n gwirfoddoli fel Rhiant Lywodraethwr i helpu Plasmawr i ddod yr ysgol orau y gall fod, yn enwedig wrth ddarparu cymorth llesiant ac iechyd meddwl i’r plant yno. Rwy'n rhedeg CardiffRead i sicrhau fy mod yn dal i ddarllen amrywiaeth eang o lyfrau. O, ac i gael fy nghyfnod misol o gwrdd â phobl llawer mwy clyfar na fi sy'n hapus iawn i dynnu sylw at bopeth roeddwn i wedi ei golli yn y llyfrau rydyn ni'n eu darllen!
Beth sy'n bwysig i mi? Cwestiwn da! <long pause> Yr hyn sy’n bwysig i mi yw gadael y byd mewn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 18 mis yn ôl gwerthais fy nghar ac ers hynny dim ond teithio llesol i fynd o gwmpas yr wyf wedi ei ddefnyddio. Effaith ficrosgopig fydd hyn, fel 1 mewn 8 biliwn. Rwy'n gwybod hyn. Rwy'n gwybod hefyd, os allaf berswadio ychydig mwy ac y gallan nhw berswadio ychydig yn fwy yna, yn eironig braidd, y byddwn 'ar y ffordd' i newid.