Wella
Fy enw i yw Wella, cefais fy magu yn ardal y Dociau. Mae’n fraint fawr i mi gael cymryd rhan mewn cynhyrchiad NTW sy’n cynrychioli ein cymuned. Dechreuais actio yn 2003 ac rwyf wedi gwneud sawl cynhyrchiad theatr gyda gwahanol gwmnïau a ffilmiau byr gyda chynhyrchwyr fel y BBC. Dydw i ddim bob amser wedi cerdded y llwybr da mewn bywyd, ac mae’r rhai sy’n fy adnabod yn gwybod fy mod wedi troi fy mywyd o gwmpas. Rwyf yn y broses o wneud cais i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn y gobaith y gallaf ennill Gradd Meistr yn y Celfyddydau Cain. Gobeithio y gallaf fod yn ysbrydoliaeth i fechgyn sy’n dod o’r un cefndir â mi.