Yvonne Connikie
Gyd-GadeiryddHelo, Yvonne ydw i.
Rydw i yn Rhaglennydd/Curadur sy'n arbenigo mewn Ffilm Ddu Annibynnol. Roeddwn i'n sylfaenydd Gŵyl Ffilm Ddu Cymru ac yn Aelod Sylfaenol a Chadeirydd y New Black Film Collective a Churadur Cynorthwyol ar gyfer Black London Film Heritage.
Rwyn arweinydd rhaglen Gŵyl Ffilm Caribïaid Windrush yng Nghasnewydd, a dwi'n parhau i weithio fel Curadur/Rheolwr Prosiect i Charlie Phillips Photography. Dwi hefyd yn ymgeisydd PHD ym Mhrifysgol De Cymru sy'n archwilio Gweithgareddau Hamdden Caribïaid Hŷn yn Butetown Caerdydd.
Mae’n bleser pur cymryd y rôl fel cyd-Gadeirydd NTW. Mae hwn yn gwmni rydw i wedi'i edmygu am ei waith dewr ac ni allaf aros i ddechrau a gweithio ar brosiectau'r dyfodol gyda'n gilydd. Mae gwneud y rôl hon gyda Sharon yn anrhydedd – dydyn ni ddim wedi gweithio gyda'n gilydd o’r blaen ond rydyn ni wedi bod yn trafod sut y bydd y rôl yn gweithio a pha setiau sgiliau gwahanol y byddwn ni'n eu cyflwyno.