Addysg
Addysg
Mae TEAM yn cydweithio ag ysgolion a darparwyr addysg amgen i ryddhau dychymyg a chreadigrwydd pobl ifanc a’u cysylltu â’n gwaith.
Mae National Theatre Wales yn cynnig pob math o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru gymryd rhan mewn theatr a’r celfyddydau. Rydyn ni eisiau cyfarfod a meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid, gwneuthurwyr theatr a chynulleidfaoedd.
O weithdai i gyfnodau preswyl i gyfleoedd perfformio, o gyfleoedd i gwrdd â phobl greadigol eraill i brosiectau mewn ysgolion a phrifysgolion; rydyn ni eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu, magu hyder, gwneud cysylltiadau, bod yn greadigol ac efallai hyd yn oed ddechrau gyrfa yn y theatr neu'r celfyddydau.
Mae Cymru'n arwain y ffordd gyda'i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol blaengar, sy'n rhoi pobl ifanc wrth galon ein bywyd democrataidd, mae creadigrwydd yn rhedeg trwy'r Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru arloesol, ac mae lleisiau pobl ifanc yn fwy pwerus nag erioed o’r blaen, diolch i fenter y Senedd (Senedd Cymru) i ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru i ddod yn unigolion hyderus, creadigol.