Y wasg
Press releases
Os oes gennych ymholiad cyfryngau, cais gan y wasg neu os ydych yn chwilio am luniau i'r wasg, cysylltwch â ni, ar press@nationaltheatrewales.org neu 029 2252 8171.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Tocynnau i'r wasg
Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o docynnau i’r wasg ar gyfer y rhan fwyaf o’n cynyrchiadau, gan roi blaenoriaeth i newyddiadurwyr sy’n ysgrifennu adolygiadau. Nid yw bob amser yn bosibl cynnig tocyn ychwanegol. Weithiau nid yw i fyny i ni pwy all gael tocyn - ar gyfer rhai digwyddiadau, y lleoliad sy'n gwneud y penderfyniad.
Ein testun parod
Cwmni theatr crwydrol yw National Theatre Wales sy’n bodoli i ddarganfod ac adrodd straeon mwyaf grymus Cymru a’i phobl. Mae’n ddrych ac yn chwyddwydr i bawb ohonon ni.
Dydyn ni ddim wedi ein clymu i adeilad. Mae hynny’n rhoi’r rhyddid i ni wneud popeth yn greadigol, gan gysylltu pobl, llefydd a syniadau i ddod â straeon yn fyw.
Fe gawson ni ein sefydlu yn 2011, a’n gwaith ni yw creu cymuned ledled y wlad o wneuthurwyr theatr a chynulleidfaoedd, gan groesawu pobl o bob cefndir. TEAM; dyma ein ffordd o weithio gyda chymunedau, ac mae’n allweddol yn hyn o beth. Mae’n creu cyfleoedd creadigol i bobl a allai fod wedi meddwl erioed nad yw’r theatr yn rhywbeth iddyn nhw.
Rydyn ni’n elusen gofrestredig (rhif 1127952) ac rydyn ni’n dibynnu ar haelioni rhoddwyr allanol er mwyn ffynnu.
Mae popeth yn dechrau gyda sgwrs yma yn NTW, ac rydyn ni wastad yn awyddus i glywed gan bawb a hoffai gymryd rhan.
Datganiadau diweddar i'r wasg
List of press Articles
Feral Monster: sioe gerdd lachar sy’n dathlu Cymru gwiar yr arddegau
1 Tachwedd 2023Cynhyrchiad clodwiw Gavin Porter Circle of Fifths yn teithio ledled Cymru ac i Lundain
8 Medi 2023Treantur (Kidstown): yn canoli lleisiau, dychymyg a dyfodol plant Cymru
4 Gorffennaf 2023National Theatre Wales yn penodi dau Gyd-Gadeirydd i arwain y cwmni
10 Mai 2023Cynhyrchiad tair rhan newydd yn y Grand Abertawe yn codi dau fys ar yr argyfwng costau byw
31 Ionawr 2023Cynhyrchiad newydd sbon wedi’i greu gan, gyda, ac ar gyfer pobl Wrecsam
3 Tachwedd 2022Nod National Theatre Wales yw sbarduno newid yn y modd yr ydym yn mynegi galar a cholled gyda sioe newydd ymdrochol yn cynnwys straeon bywyd go iawn
20 Mai 2022Bardd a gweithiwr mewn ffatri gwrthwenwyn nadroedd o orllewin cymru yn ymddangos am y tro cyntaf ar y sgrin fawr
28 Chwefror 2022Am ddrama: galwad agored am sgriptiau gan ddramodwyr yng Nghymru
1 Chwefror 2022Mae National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 yn ymuno â’I gilydd I gydgynhyrchu Petula – sioe amlieithog ac arallfydol ar gyfer pobl ifanc cymru
1 Rhagfyr 2021National Theatre Wales yn cyhoeddi Possible, sioe newydd amserol a oedd yn mynd I fod yn ymwneud â chariad… ac yna daeth COVID-19
20 Mai 2021Tîm creadigol, dan arweiniad National Theatre Wales, wedi’I ddewis I gynrychioli Cymru yn yr ŵyl creadigrwydd ledled y DU yn 2022
1 Chwefror 2021