Press Story
Yr artistiaid Nigel Barrett a Louise Mari gyda National Theatre Wales yn cyflwyno Treantur (Kidstown), yn canoli lleisiau, dychymyg a dyfodol plant Cymru
Yr haf hwn yn y Drenewydd, yr Eisteddfod Genedlaethol a Glyn Ebwy, mae plant 6-11 oed yn cael eu gwahodd i Dreantur i chwarae gêm enfawr y maen nhw’n ei chreu eu hunain.
Mae cyd-greu a chanoli lleisiau plant wrth galon Treantur, prosiect gan yr artistiaid Nigel & Louise gyda’r dylunydd Amy Pitt ac a gynhyrchir gan National Theatre Wales.
Bydd Treantur yn rhoi’r llais y maent yn ei haeddu i blant Cymru. O newid hinsawdd i'r argyfwng costau byw, ni fu eu dyfodol erioed yn fwy ansicr. Trwy lawenydd chwarae heb rwystrau a grym adrodd straeon, mae Treantur yn cynnig lle i blant ddychmygu'r byd y maent am fyw ynddo a llunio dyfodol gwell i bob un ohonom. Mae'n bryd i ni, fel oedolion, wrando.
Gosododd National Theatre Wales a Nigel & Louise gydag Amy Pitt sylfeini’r broses gyd-greu yn y Drenewydd ym mis Awst 2022. Dros bythefnos, bu plant lleol, artistiaid a’r gymuned yn ein helpu i brototeipio’r syniad ar gyfer Treantur. Amharwyd yn ddigywilydd ar etholiadau maerol gan ymlid teigrod; roedd siopau'n dosbarthu arian am newid; ac agorodd drws tylwyth teg ar waelod y goeden y tu ôl i'r bin. Yn y cyfamser, gofynnodd Nigel a Louise gwestiynau a gwrando ar yr hyn oedd gan y plant i'w ddweud.
Ym mis Gorffennaf-Awst 2023, rydym yn gwahodd plant 6-11 oed yn ôl i brofi Treantur ar raddfa fwy ac ar draws tri lleoliad yng Nghymru dros 16 diwrnod:
26-29 Gorffennaf, Y Drenewydd
Y tu allan i Oriel Davies, Y Parc, Y Drenewydd SY16 2NZ
5-12 Awst, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,
Ar y maes, Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd LL53 6DW
18-21 Awst, Glyn Ebwy
Clwb Pêl-droed Beaufort Colts, Teras Brynteg, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP23 6NE
Ar ôl cael pasbort, bydd y plant yn cael mynediad i ardal chwarae fawr yn yr awyr agored, wedi'i dylunio gan Amy Pitt. Bydd pethau yno i chwarae â nhw, i’w hadeiladu ac i’w gwisgo. Bydd cynorthwywyr wrth law i helpu'r plant i wireddu'u dychymyg.
Gwahoddir oedolion i gael hoe, i ymlacio ac i wrando ar y newyddion am yr hyn sy’n digwydd y tu mewn.
Yn yr Eisteddfod, bydd Treantur yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg gan bobl greadigol/artistiaid gan gynnwys Mirain Fflur.
Bydd Nigel & Louise yn casglu cyfweliadau a straeon gan gyfranogwyr ifanc Treantur er mwyn creu sioe epig yn 2024, a fydd yn teithio ledled Cymru a'r DU.
Artistiaid Nigel & Louise:
“Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i blant sy’n meddwl am theatr ac adrodd straeon mewn ffordd wahanol. Rhywbeth y gallai plant ei greu heb i ni bennu paramedrau beth fyddai canlyniad hynny. Felly rydyn ni wedi gwneud perfformiad byw, stori, gosodwaith, gêm o'r enw Treantur - lle gall plant wneud a chreu beth bynnag maen nhw eisiau, cael hwyl a chwarae gyda phlant eraill, heb unrhyw reolau. Yma maen nhw, mewn gwirionedd, yn creu’r stori’n fyw, yn gwbl ddi-rwystr gan bwysau gwneud perfformiad neu oedolion yn dweud wrthyn nhw beth sy’n iawn a beth sydd ddim. Bydd naratif gwahanol yn esblygu yn ystod pob dydd, i’r plant y tu mewn i’r waliau ei fwynhau ac i’r oedolion sy’n gwrando y tu allan i'w ddychmygu, fel sgil-gynnyrch eu chwarae. Fel gwneuthurwyr theatr rydyn ni’n trosglwyddo’r arena i’r plant, yna ein gwaith ni fydd gwrando a gofyn cwestiynau tra bod eu dychymyg ar waith.
Plant a gymerodd ran yn Nhreantur yn y Drenewydd ym mis Awst 2022:
“Hoffwn pe gallwn fod yn Nhreantur am byth.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig NTW Lorne Campbell, a enwyd yn un o’r 100 person mwyaf dylanwadol yn y theatr ym Mhrydain The Stage yn 2022:
“Nid yn unig y mae Treantur yn chwareus ac yn ddigywilydd, mae hefyd yn ymwneud â thynnu sylw at leisiau nas clywir yn aml ar lwyfannau ledled y DU - rhai plant a'n dyfodol. Mae holl waith NTW yn canolbwyntio ar gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ond mae Treantur yn wirioneddol yn rhoi lle blaenllaw i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn defnyddio dull gwirioneddol gydweithredol yn y prosiect hwn, gan wrando’n ofalus ar blant wrth iddyn nhw brofi Treantur ac adeiladu cronfa o’u straeon, arsylwadau, pryderon, gobeithion a breuddwydion i greu cynhyrchiad theatr radical yn 2024.
Yr haf hwn, bydd Nigel & Louise yn dod â math arbennig iawn o lawenydd creadigol a hud artistig i’r Drenewydd, Glyn Ebwy a’r Eisteddfod. Ni allwn aros i weld sut mae'r plant yn ymateb; a bydd yn rhaid i ni fel oedolion aros tan sioe’r flwyddyn nesaf i weld beth yw hanfod y cyffro.”
Ochr yn ochr â llawer o gwmnïau theatr eraill ledled Cymru a'r DU, Mae National Theatre Wales yn defnyddio Theatre Green Book fel canllaw i wneud ein cynyrchiadau yn fwy cynaliadwy. Ar gyfer y cynhyrchiad hwn, er enghraifft, rydym yn defnyddio hen lawr set pren o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i adeiladu seddi ac rydym yn cyrchu deunyddiau wedi’u hailgylchu o arwerthiannau cist car, siopau elusen a chan gwmnïau neu sefydliadau eraill sydd â gwisgoedd, wigiau, setiau a phropiau nad oes eu hangen arnynt mwyach.
Hygyrchedd
Rydyn ni'n cynnig Saesneg gyda chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol, a theithiau cyffwrdd. Mae gan bob safle fynediad heb risiau.
Ein cefnogwyr
Cynyrchiadau NTW sydd ar ddod
Teithio ledled Cymru rhwng Hydref - Tachwedd
Yn dilyn perfformiad cyntaf llwyddiannus yng Nghaerdydd yn 2022, bydd NTW yn mynd ar daith gyda'r profiad theatr ymdrochol hwn a gyfarwyddwyd gan y gwneuthurwr ffilm a theatr o Butetown Gavin Porter, gan fynd ag ef i theatrau a lleoliadau cymunedol. Wedi’i chreu gyda chyfuniad o gerddorion ac artistiaid, a straeon bywyd go iawn gan bobl ledled Cymru, mae’r sioe yn cyfuno ffilm, cerddoriaeth a theatr i greu rhaglen ddogfen fyw. Mae Circle of Fifths yn archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu mewn cyfnod o alar a cholled - gan ganiatáu eiliad o fyfyrio a dathlu ar y cyd i ni.
★★★★★ “You feel you are part of something real and stark and spiritual.” Cylchgrawn Buz
Mae Circle of Fifths yn agor yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd ar 19 Hydref 2023.